Cyllid Cymru - Finance Wales Cyllid Cymru - Finance Wales Yn annogi busnesau Cymru i lwyddo
*Cartref English*
Mewngofnodi Aelod
Gair cyfrin
Ein pobl

Swyddi

Chwilio
Cartref > Am ein cwmni Dydd Iau 9fed Meh 2008

Am ein cwmni

Buddsoddiad a dargedwyd

Mae Cyllid Cymru yn darparu cyllid masnachol (dyled ac ecwiti) i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru gan eu galluogi i wireddu eu potensial ar gyfer arloesi a thwf. Buddsoddwn mewn busnesau sy’n cychwyn a busnesau cyfnod cynnar ar adeg hollbwysig yn eu cylch oes yn ogystal â buddsoddi yn nhwf busnesau bach a chanolig sydd wedi ymsefydlu.

Fel cyllidwr twf masnachol, mae gan Cyllid Cymru ymagwedd hyblyg ond gyda ffocws ac mae’n cymryd rhan mewn nifer cynyddol o gytundebau syndicâd a chyd-fuddsoddiadau. Medrwn strwythuro cymorth buddsoddi yn amrywio o fenthyciad £5,000 i cytundebau ecwiti miliwn o bunnau a mwy.

Drwy deilwra ein pecynnau cyllid i bob cytundeb unigol, sicrhawn fod y lefel a’r math cywir o gyllid yn hybu twf y busnes cleient. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau ariannol sy’n seiliedig yng Nghymru a’r DU a chyflwynwyr busnes i sicrhau buddsoddiad ychwanegol strategol ac wedi’i dargedu.

Mae gennym effaith byd-eang

  • Buddsoddi mewn 1600 o fusnesau bach a chanolig
  • Rheoli cronfeydd o fwy na £100 miliwn
  • Buddsoddi mwy na £75 miliwn mewn busnesau bach a chanolig
  • Ysgogi mwy na £180 miliwn o fuddsoddiad sector preifat
Sefydlwyd Cyllid Cymru yn 2000 ac mae’n is-gwmni i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n gweithredu ar sail masnachol annibynnol. Daw ein cyllid buddsoddi o sectorau preifat a chyhoeddus, yn cynnwys banciau, y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ein nod yw datblygu cronfeydd sy’n hunangynhaliol a fydd yn cefnogi twf parhaus busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Gyda’i bencadlys yng Nghaerdydd, mae gan y cwmni dîm buddsoddi proffesiynol a phrofiadol sy’n gweithio mewn rhwydwaith o swyddfeydd rhanbarthol ledled Cymru. Mae gennym bortffolio eang o fuddsoddiadau ledled de ddwyrain, de orllewin, canolbarth a gogledd Cymru.


*Cartref English*