Gwybodaeth i fusnesau
Yr hyn a wnawn Mae Cyllid Cymru yn gwneud buddsoddiadau masnachol mewn busnesau bach yng Nghymru sydd â’r potensial i dyfu. Ym mha fusnesau y buddsoddwn?
- Busnesau bach a chanolig; cwmnïau sy’n cyflogi llai na 250 o bobl gyda throsiant blynyddol heb fod yn fwy na €50 miliwn.
- Mentrau cymdeithasol a phrosiectau creadigol a all syrthio’r tu allan i’r diffiniad o fusnesau bach a chanolig.
Bydd ein meini prawf llawn ar gyfer buddsoddi yn dangos i ni os ydych yn gymwys am gyllid a chynnig arweiniad ar beth i’w gynnwys yn eich cynllun busnes. Buddsoddi o ffurfio i arnofio Sylweddolwn y byddwch yn wynebu heriau newydd wrth i’ch busnes dyfu. Dyna pam y credwn mewn datblygu perthynas sy’n parhau gyda’r cwmnïau y buddsoddwn ynddynt. Sylweddolwn hyn a thargedwn ein buddsoddiadau at gamau penodol: Busnesau cam cynnar Busnesau sy’n tyfu Olyniaeth rheolaeth Lle bynnag ar eich cylch tyfu y mae’ch busnes, gall Cyllid Cymru ddarparu’r pecyn buddsoddi cywir. Gall cylchoedd pellach o gyllid eich helpu i symud i’r cam nesaf. Gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr Rydym yn aml yn gweithio gyda buddsoddwyr eraill i greu pecyn cyllido. Gall cyllid gan Cyllid Cymru yn aml ddenu buddsoddiad ychwanegol gan gyfalafwyr menter, angylion busnes, banciau a’r sector cyhoeddus. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 0800 587 4140 neu anfon e-bost atom. |