Gwybodaeth i fuddsoddwyr
Cyfleoedd buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig twf yng Nghymru Mae Cyllid Cymru yn ddarparydd unigryw o gyllid masnachol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Ni yw’r unig gwmni sy’n buddsoddi yn unig yn nhwf busnesau sy’n seiliedig yng Nghymru. Gan reoli cronfeydd o fwy na £100 miliwn, rydym eisoes wedi buddsoddi dros £75 miliwn mewn busnesau bach a chanolig ac ysgogi £180 miliwn pellach o fuddsoddiad o’r sector preifat. Mae effaith Cyllid Cymru ar economi Cymru yn awr yn fwy na £¼ biliwn – mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono. Buddsoddwyr mewn cronfeydd Cyllid Cymru Rydym hefyd yn falch i weithio gydag amrediad o fuddsoddwyr, yn cynnwys Barclays, Lloyds TSB, Royal Bank of Scotland, HSBC, European Investment Fund, NatWest, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’r Llywodraeth Cynulliad Cymru.  |