AfonwenAfonwen

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: gogledd a de ddwyrain Cymru

Sector: environmental goods and services

Gwefan: www.afonwenservices.com

 

Buddsoddiad

 

Swm: £1,000,000

Math: Dyled

Swyddog Gweithredol: Heather Abrahams

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Mae Afonwen yn gwmni twf ac yn un o olchfeydd preifat mwyaf y Deyrnas Unedig. Gwnaeth y cwmni gais i Cyllid Cymru am gyfalaf datblygu i barhau ei ehangiad. Mae ei reolwyr wedi buddsoddi £11m mewn technoleg newydd a chyfleusterau ers 1999.

 

Mae gan Afonwen hanes cryf o lwyddiant a chynllun twf strategol. Mae ei wybodaeth o’r farchnad wedi gweld y cwmni’n cyflwyno llinellau cynnyrch newydd, megis gwasanaeth llieiniau o’r radd flaenaf, a chyflwyno technolegau amgylcheddol newydd ar gyfer ailgylchu a chael gwared â gwastraff.

 

Y canlyniad

 

Mae’r buddsoddiad o £1m yn golygu y gall Afonwen ehangu ei sylfaen cleientiaid. Bydd yn cyflwyno cynnyrch a gwasanaethau newydd gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth llieiniau o’r radd flaenaf. Mae’r cwmni’n galluogi’r cwmni i fuddsoddi ymhellach mewn technoleg newydd a sicrhau stociau newydd o lieiniau.

 

Geirda

 

"Gwelodd yr ychydig flynyddoedd diwethaf fuddsoddiad sylweddol yn y busnes ac mae’r buddsoddiad diweddaraf yma, gyda chefnogaeth Cyllid Cymru, yn ein galluogi i barhau i dyfu.” Mark Woolfenden, rheolwr gyfarwyddwr, Afonwen.

 

"Mae gan Afonwen gynllun twf strategol cryf sy’n ei alluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd. Drwy gadw ei ethos teulu o ansawdd, mae wedi llwyddo i gadw rhai cleientiaid am 30 mlynedd.” Heather Abrahams, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru