AssayMetrics Cyf

 

AssaymetricsProffil busnes

 

Lleoliad: Caerdydd

Sector: gwyddorau bywyd

Gwefan: www.assaymetrics.com

 

Buddsoddiad

 

Swm: heb ei ddatgelu, rhan o syndicâd angylion busnes

Math: ecwiti

Swyddog Gweithredol: Jocelyn Brown

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Mae AssayMetrics yn gwmni cyfnod cynnar gyda photensial twf uchel, a sefydlwyd yng Nghymru.

 

Sefydlwyd y cwmni yn 2004 fel arwerthwr technolegau fflwrolau i gwmnïau biotech a fferylliaeth. Sefydlodd ffrydiau refeniw newydd drwy ddatblygu a chyflenwi ei frand ei hunan o dechnoleg fflwrolau ar gyfer darganfod cyffuriau.

 

Mae gan AssayMetrics dîm rheoli cryf, gyda sawl blwyddyn o brofiad yn y diwydiant, ar ôl cydweithio yn GE yng Nghaerdydd.

 

Roedd AssayMetrics angen buddsoddiad i ddatblygu darllenwr plât newydd i fodloni ei gwsmer allweddol. Dangosodd dystiolaeth uwch o egwyddor ar gyfer ei dechnoleg newydd, gyda phrototeip gwaith.

 

Y canlyniad

 

Mae darllenwr plât AssayMetrics wedi denu diddordeb sylweddol gan gwmnïau blaenllaw. Mae ganddo botensial cryf ar gyfer elw masnachol..

 

Mae’r cwmni’n awr yn dymuno ehangu ei amrediad cynnyrch, yn seiliedig ar adborth gan gwsmeriaid presennol.

 

Geirda

 

“Mae AssayMetrics Cyf yn sefyll allan oherwydd y ffordd y maent eisoes wedi denu diddordeb gan enwau arweiniol yn Big Pharma i gymryd rhan yn eu rhaglen prawf beta. Rydym yn falch i fod yn gweithio gyda thîm talentog, gyda llawer o ddiddordeb masnachol, mor gynnar yn eu proses datblygu cynnyrch.” Jocelyn Brown, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru.

 

“Mae’r farchnad darganfod cyffuriau yn tyfu drwy’r amser. Bydd buddsoddiad Cyllid Cymru yn AssayMetrics yn ein galluogi i gael mantais gystadleuol.” Dr Pierre Graves, rheolwr gyfarwyddwr, AssayMetrics.