Boulders Cyf
Proffil busnes
Lleoliad: de ddwyrain Cymru
Sector: hamdden
Gwefan: www.bouldersclimbingcentre.co.uk
Buddsoddiad
Swm: £54,000 (rhan o fuddsoddiad syndicâd
£525,000 gyda buddsoddwyr angel xénos)
Math: ecwiti
Swyddog gweithredol: Karen Davies
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Roedd sefydlwyr Boulders angen y cyd-fuddsoddiad cywir i
gyflawni eu nod: cyfleuster dringo o’r math diweddaraf un yng
Nghymru.
Gwnaethant fuddsoddi’n helaeth yn eu menter eu hunain ac
arddangos cynllun busnes cryf i syndicâd o fuddsoddwyr angel xénos.
Rhoddodd BPU Chartered Accountants gyngor busnes a chynllunio i
Boulders.
Y canlyniad
Agorodd Boulders fur dringo mwyaf Cymru yn 2008. Mae’n denu hyd
at 4,000 o ymwelwyr y mis ac roedd ganddo drosiant o £320,000 o
fewn ei chwe mis cyntaf.
Mae gan y cwmni yn awr gynlluniau i gynyddu ei drosiant
blynyddol i £1 miliwn drwy gynyddu ei gyfran o’r marchnadoedd
ffitrwydd oedolion, hyfforddiant corfforaethol ac addysg. Mae
Boulders hefyd yn bwriadu ehangu’r busnes i safleoedd eraill ar
draws Cymru a’r Deyrnas Unedig dros yr ychydig flynyddoedd
nesaf.
Tystebau
"Roeddem eisiau creu cyfleuster modern iawn lle medrai pobl eu
herio eu hunain yn gorfforol ac yn feddyliol, 360 diwrnod y
flwyddyn. Bu dynodi’r cyllid cywir ar gyfer y busnes yn
hollbwysig.” Rob Lawrence, Rheolwr gyfarwyddwr, Boulders Cyf.
"Dangosodd Boulders Cyf achos busnes cryf ac mae’n amlwg y
medrir cynyddu maint ei fodel busnes. Gwnaeth uchelgais ac
ymrwymiad y sefydlwyr argraff fawr arnom. Gwnaeth hyn i gyd y cyfle
buddsoddiad yn ddeniadol iawn.” Karen Davies, swyddog gweithredol
buddsoddi, Cyllid Cymru.
“Mae’n bwysig fod busnesau sy’n dymuno denu buddsoddiad i
sylweddoli fod buddsoddiad angel yn ymwneud â llawer mwy nag arian.
Yn yr achos hwn, rhoddodd dau angel xénos arbenigedd marchnata ac
ariannol gwerthfawr iawn i Boulders Cyf.” David Maas, rheolwr
xénos.