DLT Training Cyf
Proffil busnes
Lleoliad: de ddwyrain Cymru
Sector: hyfforddiant diwydiannol
Gwefan: www.dlt-training.com
Buddsoddiad
Cylch cyntaf: £150,000
Ail gylch: £40,000
Math: dyled
Swyddog gweithredol: Rachel Miles
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Mae DLT Training yn gwmni llwyddiannus a sefydlog a fu’n
masnachu am fwy na 35 mlynedd.
Mae gan y cwmni enw da am ddarparu hyfforddiant diwydiannol
arbenigol o safon uchel, sy’n farchnad dwf. Dynododd DLT nifer o
gyfleoedd marchnad newydd.
Y canlyniad
Yn 2006 prynwyd y cwmni gan y staff. Buddsoddodd Cyllid Cymru yn
y cylch cyllid cyntaf pan atgyfeiriwyd DLT Training atom gan
Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Bu DLT Training yn masnachu’n llwyddiannus gyda’r rheolwyr
newydd am dair blynedd, ac ad-dalodd bron 50% o’r benthyciad
gwreiddiol ond tyfodd yn rhy fawr i’w safle. Cysylltodd y cwmni am
ail gylch buddsoddi i ariannu costau symud ac adnewyddu safle.
Mae safle newydd y cwmni yn cynnwys gofod warws, ystafell
ddosbarth a swyddfa a bydd yn galluogi DLT Training i ehangu
ymhellach.
Tystebau
“Bu’r pryniant mor llwyddiannus fel y medrwn gynnig gwasanaethau
hyfforddiant newydd a bodloni’r galw cynyddol yn y farchnad.” Jim
Matthews, rheolwr cyffredinol, DLT Training.
“Mae DLT Training wedi perfformio’n dda ers i’r staff ei brynu.
Rydym yn falch iawn i barhau i fuddsoddi yn nhwf y cwmni.” Rachel
Miles, swyddog gweithredol portffolio, Cyllid Cymru