Flexicare Medical CyfFlexicare Medical Ltd

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: de orllewin Cymru

Sector: dyfeisiau meddygol

Gwefan:www.flexicare.com

 

Buddsoddiad

 

Swm: £350,000 (fel rhan o gyd-fuddsoddiad £750,000 gyda HSBC)

Math: dyled

Swyddog Gweithredol: Rachel Miles

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Roedd Cyllid Cymru wedi gwneud dau gylch buddsoddi yn flaenorol yn Flexicare. Roedd gan y cwmni enw da fel un o brif gynhyrchwyr a chyflenwyr y byd ar gyfer cynnyrch gofal iechyd ac roedd ganddo gynlluniau i ehangu ei weithrediadau yn Asia.

 

Y canlyniad

 

Mae Flexicare wedi ehangu ei gyfleusterau ymchwil a datblygu a gwerthiant ers i ni fuddsoddi yn y cwmni. Mae hyn wedi galluogi Flexicare i gryfhau ei weithrediadau gartref a chynyddu allforion, gan ehangu i’r farchnad yn China.

 

Tystebau

 

“Gall buddsoddiad parhaus arwain at dwf cryf drwy gynyddu gwerthiant i diriogaethau newydd. Rydym yn falch i gefnogi busnes arall eto yng Nghymru wrth iddo ehangu’n fyd-eang.” Rachel Miles, arweinydd tîm portffolio, Cyllid Cymru.

 

“Mae’r buddsoddiad gan Cyllid Cymru a’n bancwyr HSBC wedi sicrhau ein bod yn parhau â’n strategaeth twf.” Dr Ghassem Poormand, rheolwr gyfarwyddwr, Flexicare Medical Cyf.