FromstockFromstock

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: de ddwyrain Cymru

Sector: cyflenwr diwydiannol

Gwefan: www.fromstock.ltd.uk

 

Buddsoddiad

 

Swm: £650,000

Math: benthyciad

Swyddog gweithredol: Andrew Coles

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Roedd CG Rees Group o Gaerdydd yn gyflenwr metal llwyddiannus. Pan benderfynodd ei sefydlwr a rheolwr gyfarwyddwr ymddeol yn 2006, gweithredwyd cynllun olyniaeth i sicrhau fod y cwmni’n parhau i fasnachu.

 

Canlyniad buddsoddiad

 

Prynodd Jan Frayne, cyn reolwr Fromstock, y cwmni yn 2008 am £1.3 miliwn. Ailenwyd y cwmni yn Fromstock ac mae’n parhau i berfformio’n dda. Mae gan Mr Frayne gynlluniau i ehangu’r busnes a chreu swyddi newydd yn y dyfodol.

 

Tystebau

 

“Roedd buddsoddiad yn hollbwysig i’r pryniant. Rydym yn falch iawn gyda pherfformiad Fromstock, yn neilltuol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer twf y cwmni.” Jan Frayne, rheolwr gyfarwyddwr, Fromstock.

 

“Fe wnaeth cynllunio, cyngor proffesiynol a gweithio gyda phartneriaid helpu Jan Frayne i sicrhau’r buddsoddiad a alluogodd y pryniant i fynd yn ei flaen, gan felly ddiogelu dyfodol y cwmni” Andrew Coles, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru.