Global LaserGlobal Laser

 

Proffil busnes

 

Lleoliad: de ddwyrain Cymru

Sector: gweithgynhyrchu

Gwefan: www.global-lasertech.co.uk

 

Buddsoddiad

 

Swm: heb ei ddatgelu

Math: dyled

Gweithredydd: Rachel Miles

 

Pam y gwnaethom fuddsoddi

 

Bu Global Laser yn masnachu’n llwyddiannus ers 2001, gan allforio ei fodiwlau laser i bob rhan o’r byd.

 

Pan benderfynodd cadeirydd y cwmni a dau o’i gyfarwyddwyr brynu holl gyfranddaliadau ei gyfranddalwyr gwreiddiol, fe wnaethant gysylltu â Cyllid Cymru i ariannu’r ddêl. Roeddem wedi buddsoddi’n flaenorol yn ehangiad Global Laser.

 

Y canlyniad

 

Cwblhaodd tîm rheoli Global Laser y pryniant gan y rheolwyr (MBO) ac mae’n awr yn bwriadu dyblu trosiant y cwmni.

 

Gyda chynnydd yn y gwahanol ddeunyddiau ar gyfer ei gynnyrch, mae’r cwmni’n awr yn bwriadu datblygu ei gynnyrch i ennill marchnadoedd newydd.

 

Geirda

 

"Byddwn yn awr yn mynd ati i wella ein trefniadau partneriaeth gyda’n cwsmeriaid, dosbarthwyr ac asiantau." John Miller, rheolwr gyfarwyddwr, Global Laser.

 

"Mae olyniaeth ddiwnïad tîm rheoli yn hollbwysig i dwf parhaus busnes. Rydym yn falch i fod wedi cefnogi pryniant rheolwyr Global Laser gyda chyllid buddsoddi." Rachel Miles, swyddog gweithredol portffolio, Cyllid Cymru.