howies
Proffil busnes
Lleoliad: de orllewin Cymru
Sector: dillad chwaraeon
Gwefan: www.howies.com
Buddsoddiad
Swm: £600,000
Math: ecwiti
Gweithredydd: Amy Preece-Jones
Pam y gwnaethom
fuddsoddi
Pan gysylltodd howies â ni gyntaf, roedd yn gwmni ifanc
gyda photensial twf uchel a hunaniaeth gref fel brand dillad
moesegol.
Y
canlyniad
Medrodd howies dyfu drwy ddau gylch o gyllid. Yn 2007 fe’i
prynwyd gan Timberland, cwmni enfawr ym maes dillad ac esgidiau yn
yr Unol Daleithiau, gyda Cyllid Cymru yn gadael yn broffidiol.
Tystebau
"Roedd y buddsoddiad ecwiti yn hollbwysig wrth helpu ein busnes
i dyfu. Fe’n galluogodd i symud ymlaen gyda’n cynlluniau oedd yn
sicrhau trosiant uwch heb leihau ein safiad moesegol cryf -
rhywbeth mae gennym ymrwymiad mawr iddo. Bydd y cytundeb gyda
Timberland yn ein galluogi i dyfu ymhellach gan gadw ein holl
safonau a gwerthoedd. Rydym yn falch iawn gyda’r gefnogaeth gan
Cyllid Cymru sydd wedi galluogi howies i adeiladu brand mor gryf a
phroffidiol.” David Hieatt, cyd-sefydlydd, howies.
“Fe wnaeth howies adeiladu ei lwyddiant a’i
enw da ar fod yn gwmni moesegol cyfrifol. Gwnaeth brand cryf,
sefyllfa marchnad a gweledigaeth greadigol glir argraff fawr ar
Cyllid Cymru. Mae ein buddsoddiad a phryniad dilynol y cwmni gan
Timberland yn dangos pa mor effeithlon y gall buddsoddiad Cyllid
Cymru fod drwy gefnogi twf busnesau bach a chanolig”. Amy
Preece-Jones, gweithredydd buddsoddi, Cyllid
Cymru.