Inngot
Proffil busnes
Lleoliad: Abertawe
Sector: technoleg gwybodaeth a meddalwedd
Gwefan: www.inngot.com
Buddsoddiad
Swm: £100,000 (rhan o gyd-fuddsoddiad £160,000
gyda buddsoddwyr angel)
Math: ecwiti
Swyddog gweithredol: Ann Casey
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Mae Inngot yn gwmni cyfnod cynnar gydag
ymagwedd flaengar at ariannu asedau a datblygodd wasanaeth
cofrestru diogel a marchnad ar-lein sy’n galluogi cwmnïau i
gyhoeddi manylion eu heiddo deallusol. Gall rhestriad cwmni ei
helpu i ddenu busnesau neu ddeiliaid trwydded newydd, dynodi
cyfleoedd datblygu, a chodi cyfalaf.
Roedd Cyllid Cymru wedi buddsoddi’n flaenorol yn Inngot ar ei
gyfnod cychwynnol. Mae gan y cwmni dîm rheoli profiadol gyda’r
potensial i gyflawni ei gynlluniau twf.
Y canlyniad
Bydd y buddsoddiad yn galluogi Inngot i barhau i ddatblygu a
marchnata ei wasanaethau fel bod y cwmni’n cychwyn cynhyrchu
refeniw o’i wasanaethau. Mae’n anelu i ddod yn arweinydd marchnad
yn y sector newydd o ariannu asedau ar-lein.
Mae’r cwmni eisoes wedi denu sylfaen eang o danysgrifwyr gyda
chynllun lansio effeithlon ac mae ganddynt y potensial i ddod yn
arweinydd mewn marchnad newydd.
Tystebau
“Bu buddsoddiad gan Cyllid Cymru yn bwysig iawn i Inngot. Mae’n
bleidlais wych o hyder yn y cysyniad.” Martin Brassell,
cyfarwyddwr, Inngot.
“Rydym yn falch i fuddsoddi mewn busnes sydd â’r potensial i
ddatlbygu eiddo deallusol a masnacheiddio busnesau eraill.” Ann
Casey, swyddog gweithredol buddsoddi, Cyllid Cymru.