Nightingale EOS
Proffil busnes
Lleoliad: gogledd Cymru
Sector: opto-electroneg
Gwefan: www.n-eos.com
Buddsoddiad
Swm: heb ei ddatgelu (rhan o gyd-fuddsoddiad
heb ei ddatgelu gyda Chronfa Had Mercia Technology)
Math: ecwiti
Swyddog Gweithredol: Leanna Davies
Pam y gwnaethom fuddsoddi
Cysylltodd y cwmni cyfnod cynnar
Nightingale gyda Cyllid Cymru gyda chyfle cyd-fuddsoddi, y cyntaf
o’i fath gyda Chronfa Had Mercia Technology. Roedd y cwmni wedi
llunio technoleg laser, Adlewyrchedd Proffil Pelydryn (BPR) sy’n
mesur caenau tenau a ddefnyddir yn neilltuol mewn dyfeisiau
meddygol.
Y canlyniad
Medrodd Nightingale EOS gwblhau datblygiad ei gynnyrch cyntaf
fel canlyniad i’r cyd-fuddsoddiad a chyllid grant ychwanegol gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae gan eiddo deallusol Nightingale botensial masnachol mawr
drwy ostwng cost gweithgynhyrchu dyfeisiau meddygol a gwella eu
hansawdd. Bydd BPR hefyd yn helpu gweithgynhyrchwyr dyfeisiau
meddygol i gydymffurfio gyda rheoliadau FDA.
Geirda
"Mae’r buddsoddiad yma’n galluogi Nightingale i ddatblygu’r
dechnoleg mae ei gwsmeriaid eu hangen. Mae gan defnyddion BPR yn
rhoi manteision clir i weithgynhyrchwyr dyfeisiau meddygol.”
Alistair Taylor, cadeirydd Nightingale EOS.
"Mae Nightingale EOS yn ychwanegu at y clwstwr sydd eisoes yn
sylweddol o gwmnïau technoleg optegol yn ardal Wrecsam. Mae ei
ragolygon ar gyfer twf tymor hir wedi gwneud argraff arnom.” Leanna
Davies, rheolwr buddsoddiad cyfnod cynnar, Cyllid Cymru