Cyd-fuddsoddiad yn helpu canolfan ddringo Boulders i godi fry


BouldersCyd-fuddsoddodd Cyllid Cymru yn ddiweddar gyda angylion busnes xénos mewn cytundeb ecwiti £525,000. Roedd y buddsoddiad yng nghwmni newydd Boulders, mur dringo mwyaf Cymru, a agorodd yn Awst 2005.


Creu pecyn buddsoddiad


Fe wnaethom fuddsoddi £54,000 o ecwiti yn Boulders. Buddsoddodd dau angel busnes, Peter Saunders a Keith Thomas gyfanswm o £60,000 am gyfran yn y cwmni.


Roedd cynllun twf rhagamcanol Boulders yn apelio at ein gweithredydd buddsoddi Karen Davies a baratodd becyn buddsoddiad. Gwelodd dau aelod o xénos, Rhwydwaith Angylion Busnes Cymru hefyd y potensial yn y ganolfan chwaraeon eithafol a roeddent yn awyddus i gymryd rhan.


Mae xénos, Rhwydwaith Angylion Busnes Cymru yn paru buddsoddwyr preifat gyda busnesau sy’n chwilio am fuddsoddiad.


Buddsoddwyr yn rhannu eu harbenigedd

 

Rhoddodd y ddau angel bunses gyngor gwerthfawr i Rob Laurence ac Ollie Noakes, sefydlwyr Boulders.
Roedd yr angel busnes Peter Saunders yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cwmni newydd. “Mae Rob a Ollie yn angerddol am y busnes. Roedd Keith Thomas a finnau’n falch i fuddsoddi yn Boulders a rhoi budd ein profiad busnes ehangach i’r sefydlwyr. Mae’n syniad gwych ac mae’n sicr o fod yn llwyddiant mawr”.

 

Cyfrifydd yn cyfeirio

 

Cafodd Boulders gyngor gan gyfrifyddion siartredig BPU ar y dechrau a chyfeiriodd y cyfle buddsoddiad atom. Gwelodd y cyfrifyddion y byddai pecyn buddsoddiad teilwredig gan Cyllid Cymru yn galluogi’r cwmni i gyflawni ei amcanion.

 

Gweledigaeth Boulders yw darparu dewis iach a chyffrous yn lle campfeydd a chanolfannau ffitrwydd.