Portffolio llwyddiannus Cyllid Cymru yn clirio'r bwrdd yng Ngwobrau MediWales

 

13 Rhagfyr 2011

 

Calon Cardio Technology yn derbyn Gwobr Beirniaid MediWales 2011Enillodd cwmnïau portffolio Cyllid Cymru bump o'r chwe gwobr diwydiant yn 6ed Gwobrau MediWales a gynhaliwyd yng Ngwesty Hilton Caerdydd. Mae'r gwobrau pwysig yn cydnabod rhagoriaeth yn y diwydiant gwyddorau bywyd.

 

"Mae gan Cyllid Cymru ymrwymiad i fuddsoddi mewn cwmnïau arloesol ac mae'n bleser gwirioneddol gweld cynifer o'n cwmnïau portffolio yn ennill gwobrau eleni. Mae gwobrau MediWales yn uchel eu bri yn y sector gwyddorau bywyd," esboniodd Steve Smith, cyfarwyddwr buddsoddiadau cyfnod cynnar Cyllid Cymru.

 

Gwobr Twf Eithriadol

 

Cydnabuwyd Biotec Services International am ei dwf cyson, cynaliadwy, a phroffidiol, gan ennill Gwobr Twf Eithriadol MediCymru. Galluogodd dau gylch buddsoddi yn gyfanswm o £900,000 Biotec i dargedu marchnadoedd rhyngwladol newydd, gan ehangu ei wasanaeth cyflenwadau clinigol i Asia, Israel a'r Deyrnas Unedig.

 

Gwobr Beirniaid y Diwydiant

 

Derbyniodd Calon Cardio Technology Wobr Beirniaid y Diwydiant am ei driniaeth a fedrai arwain y byd ar gyfer methiant y galon. Buddsoddodd Cyllid Cymru a Longbow Capital £1 miliwn mewn pympiau gwaed ymyrrol isel iawn a chost fychan Calon-Cardio Technology.

 

Darllenwch fwy am ein buddsoddiad yn Calon Cardio Technology.

 

Gwobr Allforio Diwydiant

 

Enillodd Chromogenex Wobr Allforio'r Diwydiant am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl canolbwyntio ar strategaeth o arloesi a thwf yn canolbwyntio ar allforion. Mae'r cwmni o Lanelli yn cynhyrchu ac yn gwerthu systemau laser a thechnoleg golau ar gyfer triniaethau coluron a meddygol. Defnyddiodd Chromogenex ein buddsoddiad o £1.2 miliwn i dargedu materion strategol ac allweddol newydd yn cynnwys yr Unol Daleithiau, De Affrica, Ewrop ac Asia.

 

Darllenwch fwy am ein buddsoddiad yn Chromogenex.

 

Gwobr Partneriaeth GIG a Diwydiant

 

Aeth Gwobr Partneriaeth GIG a Diwydiant i Flexicare Medical am gydweithio i ddatblygu a chynllunio Clo Hall, sy'n atal disgyblion rhag derbyn cyffuriau yn anghywir. Buddsoddodd Cyllid Cymru gyfanswm o £550,000 dros y tri chylch ariannu.

 

Darllenwch fwy am ein buddsoddiad yn Flexicare.

 

Gwobr Cychwyn Busnes

 

Enillodd Microvisk Technologies o Sir Ddinbych y Wobr Busnes Newydd am ddatblygu ei offeryn profi gwaed CoagMax. Buddsoddodd Cyllid Cymru yn Microvisk yn 2009. Yn 2010, enillodd y cwmni dros £8 miliwn gan Cyllid Cymru a chonsortiwm cryf o gydfuddsoddwyr.

 

Links

 

www.biotec-uk.com

www.caloncardio.com

www.chromogenex.com

www.flexicare.com

www.microvisk.com