ZooBiotic yn arweinydd byd-eang ar ôl caffael
cystadleuydd Ewropeaidd
08/06/10

Mae Cyllid Cymru wedi buddsoddi yng nghaffaeliad ZooBiotic o
BioMonde GMbH, ei brif gystadleuydd Ewropeaidd.
Mae’r caffaeliad yn galluogi’r cwmni fferylliaeth i sicrhau ei
safle fel chwaraewr blaenllaw.
“Mae’r caffaeliad yn cadarnhau ein sefyllfa fyd-eang mewn eiddo
deallusol ac yn rhoi’r nerth ariannol i ni gwblhau datblygu ein
marchnad Ewropeaidd,” meddai Gareth Kempson, Prif Swyddog
Gweithredol ZooBiotic. “Bydd hyn yn galluogi ZooBiotic i adeiladu
sylfaen gadarn ar gyfer ein hymgyrch ym marchnad Gogledd
America.”
Ariannwyd y ddêl, sy’n werth miliynau o bunnau, gan Cyllid Cymru
a Syr Roger Jones. Darparwyd cyngor ariannol a chyfreithiol gan
Gambit a M&A Solicitors o Gaerdydd.
Buddsoddiad hirdymor
Roedd buddsoddiad cyntaf Cyllid Cymru yn ZooBiotic yn 2005, ar
ôl i’r cwmni ddeillio o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Bro Morgannwg.
Ers hynny rydym wedi buddsoddi mewn pum cylch arall yn gyfanswm
o £3.1 miliwn yn y cwmni portffolio.
Eiddo deallusol arloesol
Mae ZooBiotic yn arbenigo mewn therapïau larfaol ar gyfer y
sector gofal briw, gan ddefnyddio technoleg arloesol i lanhau ac
annog iachâd briw. Mae’r driniaeth gost-effeithlon wedi denu sylw
sylweddol ymysg nifer o ddarpar gleientiaid.
A yw’ch busnes chi yn barod i ehangu?
P’un ai twf organig neu ehangiad drwy gaffaeliad yw’r llwybr
gweithredu gorau ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni i ganfod os
medrwn eich helpu i gyflawni eich potensial am dwf.