Busnes model?
Bwltin invest: rhifyn 4, 2010
Mae’r model busnes cywir yn hanfodol ac esblygu yn hytrach na
newid cyflym yw’r ffordd orau o’i weithredu. Mae hefyd yn golygu
fod busnesau yn llai tebygol o fod yn cronni problemau ar gyfer y
dyfodol.
“Bu’r amodau economaidd yn anodd yn ddiweddar,” esboniodd Peter
Wright, cyfarwyddwr buddsoddi Cyllid Cymru. “Nid yw rhai busnesau
wedi’i gwneud hi, ond mae’r rhai a ddaeth trwyddi wedi sylweddoli
nad opsiwn yw’r model busnes cywir ond allwedd i’w llwyddiant yn y
dyfodol.”
Cyfleoedd yn curo
Gall nifer fawr o ffactorau effeithio ar newidiadau mewn model
busnes. Mae angen meddwl yn ofalus i helpu eich cleientiaid i
adeiladu model busnes cynaliadwy a’r strategaeth twf cywir i droi’r
hyn a ystyrir yn anfanteision i fod yn gyfleoedd gwirioneddol.
“Mae’r busnesau mwyaf llwyddiannus yn esblygu eu modelau busnes
yn barhaus,” esboniodd Wright. “Mae’n rhy rhwydd o lawer i fusnesau
ddal ati i wneud pethau fel y maent wedi’u gwneud bob amser a
diystyru’r potensial ar gyfer eu cynnyrch yn ogystal â chyfleoedd
mewn marchnadoedd presennol a newydd.”
Amrywio eich dewis cynnyrch
“Gall amrywio eich dewis cynnyrch fod yn opsiwn deniadol am
nifer o resymau,” ychwanegodd Wright. “Yn aml gall busnesau
fanteisio o arbedion maint, ymelwa ar allu dros ben a thyfu eu
refeniw a’u helw.”
Buddsoddodd Cyllid Cymru nifer o gylchoedd yn Camre Cymru, prif
gwmni annibynnol y DU ar gyfer alldeithiau i bobl ifanc.
Defnyddiodd Camre Cymru fuddsoddiad o £710,000 gan Cyllid Cymru i
sicrhau cofrestriad ATOL ac esblygu ei fodel busnes drwy ddarparu
alldeithiau byr yn ogystal â rhai hir. Mae’r cwmni wedi cynyddu ei
refeniw, cwtogi ei gylch gwerthiant a goresgyn natur gynhenid
dymhorol ei farchnadoedd allweddol.
Ymelwa ar farchnadoedd newydd
Mae’n aml fanteision cost ac effeithiolrwydd clir i ymelwa ar
botensial newydd mewn marchnadoedd presennol a bu Cyllid Cymru yn
gweithio gyda nifer o fusnesau a’u cynghorwyr i ystyried hyn a
strwythuro pecynnau buddsoddi addas.
Defnyddiodd Ramp Industries, cyflenwr i sector awyrofod y DU,
fuddsoddiad o £150,000 gan Cyllid Cymru i sefydlu uned
gweithgynhyrchu newydd. Bydd y cwmni’n awr yn defnyddio’r galluedd
ychwanegol hwn i ehangu ei ddewis gwasanaethau ac ymelwa ar
farchnadoedd newydd a phresennol yn y DU.
Cymryd golwg ryngwladol
Gall marchnadoedd domestig cynyddol lawn, nerth y bunt neu
botensial mwy o alw ei gwneud yn werth ehangu i farchnadoedd
rhyngwladol. Efallai bod llai o gystadleuwyr mewn marchnad o’r fath
neu medrant fod â photensial ar gyfer mwy o elw a chyfle i sicrhau
arbedion maint.
“Rydym wedi gweithio gyda nifer o fusnesau i strwythuro pecynnau
cyllid addas i’w helpu i esblygu eu modelau busnes. Drwy fod yn
uchelgeisiol, gall busnesau wirioneddol gyflymu eu cynlluniau twf a
throi anfanteision tybiedig yn gyfleoedd go iawn”, meddai
Wright.