Croeso i ganolfan cyfryngau Cyllid Cymru
Mae’r adran hon ar gyfer newyddiadurwyr ac
allfannau cyfryngau sy’n edrych am wybodaeth am Cyllid Cymru a’i
berfformiad buddsoddi. Yma medrwch gyrchu datganiadau i’r wasg,
gwybodaeth gorfforaethol a manylion cyswllt.
Ymholiadau cyfryngau
Cyswllt: Owain Betts, rheolwr cyfathrebu
marchnata
Ffôn: 01686 613118 / 07899 926842
E-bost: communications@financewales.co.uk
Datganiadau diweddaraf i’r wasg
Mae Land Energy wedi cychwyn cynhyrchu pelenni pren fel tanwydd masnachol amgen mewn buddsoddiad £2 miliwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda chefnogaeth £350,000 o fuddsoddiad dyled gan Cyllid Cymru.
Mae cwmni sy’n datblygu dyfais cyflenwi cyffuriau heb ddefnyddio nodwyddau wedi derbyn bron i £500,000 mewn ail gylch buddsoddiad a chyllid gan Cyllid Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Cyllid Cymru wedi buddsoddi £1.5 miliwn o gyllid yng nghwmni peirianneg arbenigol Jenkins and Davies er mwyn i’r rheolwyr brynu i mewn i’r cwmni (MBI).
Mae un o olchdai annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig yn cychwyn ar gyfnod pellach o ehangu gyda £1 miliwn o fuddsoddiad gan Cyllid Cymru.
Mae Cyllid Cymru wedi gwerthu ei fuddsoddiad yn Abriox Cyf, cwmni sy’n datblygu a chynhyrchu offerynnau monitro o bell ar gyfer cwmnïau nwy a phetrocemegol, yn ôl i’r cwmni.
Mae Cronfa ED Creadigol Cymru wedi buddsoddi yn ail gyfres Grandpa In My Pocket, comedi dra llwyddiannus CBeebies – yn dilyn llwyddiant byd-eang y gyfres gyntaf y buddsoddodd y gronfa ynddi.
Mae Inscapes o Dde Cymru yn ehangu ei fusnes contractio caeau chwarae, tirlunio ac amgylcheddol, gyda chymorth cyllid dilynol gan Cyllid Cymru.
Mae Cronfa ED Creadigol Cymru wedi cymryd ei gyfran gyntaf mewn trac sain ffilm ar ôl buddsoddi yn ffilm hir ddiweddaraf Matthew Rhys, Patagonia, a dderbyniodd gyllid ychwanegol gan Asiantaeth Ffilm Cymru.
Mae perchnogion newydd cwmni yn Ne Cymru a dreuliodd wyth mlynedd yn datblygu amrediad o laserau perfformiad uchel a dibynadwy iawn yn anelu i ddyblu eu trosiant o fewn tair blynedd ar ôl i’r rheolwyr brynu’r cwmni.
Mae cwmni cam cynnar seiliedig yng Nghaerdydd yn datblygu dull chwyldroadol i helpu’r diwydiant cyfathrebiadau symudol i ddylunio system gyfathrebu dra effeithiol wedi codi £1miliwn yn llwyddiannus drwy ei gylch cyllid ecwiti cyntaf.
Datganiadau i'r wasg sydd wedi'u
harchifo
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126