Fromstock yn symud ymlaen ar ôl ei brynu gan reolwr
Cafodd Fromstock ei atgyfeirio at Cyllid Cymru gan
gynghorwyr. gan geisio cyllid ar gyfer MBO.
Bydd cwmni cyflenwi metel o dde Cymru yn parhau i dyfu ar ôl i’w
reolwr gyfarwyddwr ymddeol.
Prynodd Jan Frayne grwp cwmnïau CG gan y sefydlydd Colin Rees.
Fel rhan o’r cytundeb bydd Mr Frayne yn dod yn berchennog a rheolwr
gyfarwyddwr y cwmni, a ailenwyd yn Fromstock.
Buddsoddodd Cyllid Cymru £650,000 yn y dêl olyniaeth ar ôl i
CODA Business Management gyfeirio Mr Frayne atom.
Cynllunio ymlaen ar gyfer olyniaeth
Cyhoeddodd Mr Rees ei benderfyniad i ymddeol yn 2006 ond ni
ddymunai weld y cwmni’n cau. Paratodd gynllun olyniaeth gyda Mr
Frayne a fu gyda’r cwmni ers 17 mlynedd.
Mae’r cwmni wedi masnachu ers 1974 ac mae ei gwsmeriaid yn
cynnwys nifer o gwmnïau blaenllaw. Mae Mr Frayne hefyd yn bwriadu
ehangu’r busnes a chreu swyddi newydd.
Sicrhau buddsoddiad drwy gyfryngwr
Ceisiodd Mr Frayne gyngor proffesiynol i godi’r £1.3m oedd ei
angen ar gyfer y cytundeb olyniaeth. Cyfeiriodd CODA Business
Management ef at Cyllid Cymru a phartneriaid preifat a chyhoeddus
eraill, yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Roedd y cynghorwyr eraill yn cynnwys New Law, BPU Accountants a
Tony Price Associates. Cynghorwyd Cyllid Cymru gan Broomfield and
Alexander a Go Industry.