Cyllid Cymru yn buddsoddi yn y cwmni meincnodi band eang
byd-eang Epitiro
22/04/08
Mae un o brif arbenigwyr y byd ar berfformiad rhwydweithiau band
eang i gynyddu eu cynlluniau ehangu byd-eang yn dilyn buddsoddiad
gan Cyllid Cymru.
Mae Epitiro o Gaerdydd yn darparu meincnodi annibynnol ar
rwydweithiau band eang, gan ddadansoddi perfformiad megis cyflymder
uwchlwytho a lawrlwytho ac amserau cyswllt, ac mae ei restr
cleientiaid cynyddol yn cynnwys Ofcom, rheoleiddiwr llywodraeth y
Deyrnas Unedig, a’r Commerce Commission, y corff cyfatebol yn
Seland Newydd.
Bydd y buddsoddiad gan Cyllid Cymru, sy’n darparu cyllid
masnachol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, yn cefnogi
Epitiro wrth iddo gychwyn ar ei gam nesaf o dwf, gan ehangu ei
bortffolio a hefyd y nifer o wledydd y mae’n gweithredu
ynddynt.
Sefydlwyd Epitiro gan Gavin Johns a JP Curley 2000 ac mae’r
cwmni wedi ennill ei blwyf fel ffynhonnell awdurdodol ar ddata
cymharol ar berfformiad band eang ledled y Deyrnas Unedig a Seland
Newydd. Mae ymchwil y cwmni yn galluogi defnyddwyr, Darparwyr
Gwasanaeth Rhyngrwyd a rheoleiddwyr i fonitro perfformiad ac
ansawdd darpariaethau band eang ar raddfa genedlaethol a
rhyngwladol.
Bydd y cwmni, sy’n seiliedig ym Mae Caerdydd, yn datblygu
marchnadoedd yn Ewrop, Asia a’r Unol Daleithiau ac ehangu cwmpas ei
ddull Internet Performance Index™, graddiad cymharol ar gyfer
Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISPs), i gynnwys darparwyr
gwasanaeth blaenllaw mewn mwy na 30 o wledydd.
Mae cwsmeriaid megis BT, Orange, Virgin, New Zealand Telecom,
Ofcom, Tiscali, Telefonica O2 ac eraill yn manteisio o
ddadansoddiad helaeth Epitiro o berfformiad band eang sefydlog a
diwifr.
Dywedodd Gavin Johns, Prif Weithredwr Epitiro: “Mae Cyllid Cymru
yn coleddu ein hysbryd entrepreneuraidd ac yn rhannu ein huchelgais
i ddod yn arweinydd byd-eang ar gyfer dadansoddi cyfathrebu band
eang annibynnol. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio eu cyllid a’u
dawn busnes i alluogi twf rhyngwladol yn organig a hefyd drwy brynu
cwmnïau eraill.”
Dywedodd y byddai cynlluniau twf y cwmni, yn cynnwys lansio
dadansoddiad chwarae trebl (mesuriad cyfun llais, fideo a band
eang) band eang sefydlog a diwifr yn golygu y byddai Epitiro yn
brif ddarparydd byd-eang ar gyfer data meincnodi band eang.
Dywedodd Chris Griffiths, Gweithredydd Buddsoddi Cynulliad
Cymru, fod Epitiro mewn safle da ar gyfer twf sylweddol.
Dywedodd: “Mae’r wybodaeth a roddir gan Epitiro yn werthfawr tu
hwnt ym marchnad fyd-eang heddiw lle mae gan y rhyngrwyd rôl
allweddol mewn diwydiant a masnach. Rydym yn falch i gefnogi
Epitiro, cwmni seiliedig yng Nghymru sydd ar fin cyflawni
llwyddiant byd-eang. Gyda rhestr ragorol o gleientiaid a thîm
rheoli profiadol, rydym yn hyderus y bydd y cwmni yn parhau i wneud
argraff ar ISPs, rheoleiddwyr a chwmnïau cyfryngau mewn
marchnadoedd newydd.”
Mae Cyllid Cymru yn cymryd cyfran leiafrifol yn y cwmni drwy ei
fuddsoddiad. Ni ddatgelwyd swm y buddsoddiad.
Y cynghorwyr ar y cytundeb ar gyfer Epitiro oedd Berry Smith
Cyfreithwyr. Gweithredodd Kilsby Williams a Geldards ar ran Cyllid
Cymru.
Nodiadau i'r golygydd
Epitiro
Mae Epitiro yn darparu data meincnodi perfformiad a phrofiad
cwsmeriaid bandeang i ISPs, darparwyr cyfryngau, corfforaethau
rhyngwladol a rheoleiddwyr llywodraeth. Caiff nodweddion VoIP,
fideo a gwasanaeth rhyngrwyd eu meincnodi drwy ddefnydd helaeth
Epitiro o asiantau ISP-I™ gyda’r canlyniadau ar gael drwy wasanaeth
tanysgrifio ar-lein neu’r adroddiad rhannol-flynyddol Internet
Performance Index™. Mae’r cwmni hefyd yn darparu datrysiadau profi
a meincnodi pwrpasol gyda *DataLite™, VocaLite™ ac ISP-I™, gyda’i
allu dadansoddi P2P a gwefan.
Sefydlwyd Epitiro yn 2000 ac mae’n brif ffynhonnell gwybodaeth
ar gyfer dyfarniadau ISPA (Cymdeithas Darparwyr Gwasanaeth
Rhyngrwyd), ac mae’n seiliedig yng Nghaerdydd. www.epitiro.com.
Mae * DataLite™, VocaLite™, Internet Performance Index™ a ISP-I™
yn nodau masnach Epitiro Cyf. Cedwir pob hawl..