Buddsoddiad dilynol yn cefnogi ehangiad Inscapes UK

 

23/09/09

 

Mae Inscapes o Dde Cymru yn ehangu ei fusnes contractio caeau chwarae, tirlunio ac amgylcheddol, gyda chymorth cyllid dilynol gan Cyllid Cymru.

 

Sefydlwyd Inscapes, sy’n seiliedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2005 ar ôl i’r rheolwyr, dan arweiniad y Prif Weithredwr Gareth Rees, brynu’r cwmni. Ers hynny mae’r busnes wedi tyfu’n naturiol, gan wneud nifer o gaffaeliadau allweddol a’i cynorthwyodd i ddod yn un o gyflenwyr arbenigol Prydain ar gyfer prosiectau chwaraeon, tirlunio ac amgylcheddol.

 

Cefnogodd Cyllid Cymru, sy’n darparu cyllid masnachol i fusnesau yng Nghymru, y cyfarwyddwyr i brynu’r cwmni gyda buddsoddiad o £50,000. Yn ddiweddar, rhoddodd gyllid dyled dilynol o £60,000 i gefnogi contract sylweddol i symud adrannau ar hyd piblinell LPG 316 cilomedr o hyd rhwng Aberdaugleddau a Tirley yn Swydd Caerloyw.

 

Dywedodd Mr Rees: “Mae braich amgylcheddol y busnes yn strategol bwysig i ni ac mae twf sylweddol yn y maes hwn. Mae’r bibell LPG yn enghraifft dda. Fe wnaethom symud tywyrch o ardaloedd amgylcheddol sensitif a mynd ag ef yn ôl i’r un ardaloedd ar ôl gosod y biblinell. Roedd hyn yn sicrhau amnewid yr amgylchedd mewn ardaloedd dynodedig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar hyn o bryd rydym yn cynorthwyo contractwyr piblinellau rhyngwladol i ddychwelyd y safle i’w gyflwr amgylcheddol blaenorol.

 

“Mae’r cyllid masnachol a chefnogaeth gan Cyllid Cymru wedi’n galluogi i gynnal ein twf parhaus ac roedd yn gam nesaf amlwg ar ôl ein llwyddiant yn prynu’r cwmni yn 2005. Rydym hefyd wedi derbyn cefnogaeth werthfawr gan Dave Perez yn Cyllid Cymru sydd wedi cymryd diddordeb byw yng nghynnydd y busnes.”

 

Mae gan Inscapes nifer o gleientiaid proffil uchel, yn cynnwys Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd; cyrsiau golff Wentworth a Celtic Manor a Chlwb Rygbi Scarlets Llanelli. Roedd prosiect Scarlets Llanelli yn cynnwys yr holl waith o adeiladu’r llain yn cynnwys draeniad, dyfrio a gwresogi oddi tanodd. Cafodd y cwmni ei ganmol gan nifer o chwaraewyr a rheolwyr.

 

Roedd prosiect diweddar a gwblhawyd ar gyfer Cardiff City Stadiums Cyfyngedig yn cynnwys symud wyneb chwarae Parc Ninian i safle hyfforddiant newydd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn dilyn cyfleoedd am waith yng Ngemau Olympaidd 2012.

 

Mae’r cwmni wrthi’n ehangu ei ardal weithredu i farchnad ehangach y Deyrnas Unedig ac yn rhoi mwy o bwyslais ar y fraich amgylcheddol yn ei strategaeth twf.

 

Dywedodd David Perez, Swyddog Gweithredol Buddsoddi yn Cyllid Cymru fod Inscapes yn arddangos pwysigrwydd buddsoddiad i sicrhau twf tymor-hir. “Gyda’n perthynas bresennol gyda Inscapes, sylweddolodd y cwmni fod angen buddsoddiad ychwanegol i dyfu a throdd atom ni i ddynodi pecyn addas. Rydym yn falch i barhau ein perthynas gyda’r cwmni ar amser cyffrous iddynt.”

 

Ymholiadau gan y cyfryngau

 

E-bost: communications@financewales.co.uk

Ffôn: 029 2033 8126