AssayMetrics Cyf yn sicrhau buddsoddiad ecwiti gan Cyllid Cymru

 

26/05/10

 

Mae AssayMetrics Cyf wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti nas datgelwyd ei faint gan Cyllid Cymru i fasnacheiddio prototeip o ddarllenydd plât i’w ddefnyddio yn y diwydiannau biotechnoleg a fferylliaeth.

 

Mae’r busnes cyfnod cynnar, sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, hefyd wedi derbyn buddsoddiad gan syndicâd o angylion busnes.

 

Ffurfiwyd AssayMetrics cyf yn 2004 gan Dr Pierre Graves, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni. Gyda’i bencadlys yn y Ganolfan Feddygol, ychwanegwyd at y tîm yn 2005 pan ymunodd dau wyddonydd uwch, Dr. John Whateley a Dr J. Anthony Smith.

 

Lansiodd y cwmni ei gynnyrch cyntaf yn 2006, sef ymweithredyddion llifynnau cemegol a ddefnyddir o fewn y diwydiannau biotechnoleg a fferylliaeth ar gyfer sgrinio cyfansoddion. Wedyn aeth y cwmni ymlaen i ddatblygu eu hymweithredyddion llifynnau fflwrolau newydd eu hunain - PURETIME® - cyn cychwyn ar ddylunio a datblygu prototeip o declyn darllen plât.

 

Roedd datblygu teclyn darllenydd plât yn dilyn yn naturiol i’r cwmni - gan ychwanegu technoleg offerynwaith dadansoddi i’w gynnyrch presennol seiliedig ar lifynnau.

 

Mae nifer o gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid proffil uchel newydd eisoes wedi mynegi dymuniad i weithredu fel safleoedd prawf beta ar gyfer y darllenydd plât newydd.

 

Dywedodd Jocelyn Brown ar ran Cyllid Cymru: “Mae AssayMetrics Cyf ben ac ysgwydd uwchben llawer o fusnesau bach newydd gan eu bod eisoes yn denu diddordeb sylweddol gan enwau blaenllaw yn y diwydiant fferylliaeth i gymryd rhan yn eu rhaglen prawf beta. Rydym yn falch i weithio gyda thîm rheoli mor dalentog, sydd â phrofiad masnachol mor gryf a dwfn.”

 

Dywedodd Pierre Graves, Prif Swyddog Gweithredol AssayMetrics Cyf: “Mae’r farchnad darganfod cyffuriau yn parhau i dyfu er gwaethaf y dirwasgiad ac rydym yn hynod falch i fedru rhoi technoleg yn nwylo cwsmeriaid fydd yn gwneud y broses yn gyflymach a mwy effeithiol.”

 

Y cynghorwyr ar y ddêl oedd: Evolution LS - diwydrwydd dyladwy technegol-fasnachol; IP Pragmatics - diwydrwydd dyladwy eiddo deallusol; Hugh James - cyfreithiol syndicâd; Ashford - cyfreithiol cwmni.

 

 

Ymholiadau gan y cyfryngau

 

E-bost: communications@financewales.co.uk

Ffôn: 029 2033 8126