Cyllid Cymru yn gadael Abriox yn llwyddiannus
27/10/09
Mae Cyllid Cymru wedi gwerthu ei fuddsoddiad yn Abriox Cyf,
cwmni sy’n datblygu a chynhyrchu offerynnau monitro o bell ar gyfer
cwmnïau nwy a phetrocemegol, yn ôl i’r cwmni.
Mae Abriox, sy’n seiliedig yn Nhŷ Imperial, Casnewydd, yn
darparu offer arbenigol i gwmnïau olew a nwy i fonitro cyflwr eu
rhwydweithiau trosglwyddo a dosbarthu o bell. Caiff ei gynnyrch eu
gosod ar biblinellau nwy newydd yn y Deyrnas Unedig ac mae’r cwmni
hefyd wedi ennill contractau pwysig yn yr Unol Daleithiau ac mae’n
awr yn ehangu i Ewrop a’r Dwyrain Canol.
Buddsoddodd Cyllid Cymru £125,000 o gyfalaf datblygu yn y cwmni
yn ei gyfnod cynnar i gefnogi masnacholi system Abriox ym Mhrydain
ac ehangu i farchnadoedd rhyngwladol newydd.
Mae gweithredwyr piblinellau yn defnyddio diogeliad cathodig
(CP) i atal pibelli metel a gladdwyd rhag rhydu. Diogeliad cathodig
yw rhoi foltedd isel ar y biblinell i wrthweithio’r adwaith
electrolytig naturiol sy’n digwydd pan ddaw metal i gysylltiad
gyda’r pridd o amgylch.
Gall y pibelli gael ei difrodi os yw lefel y foltedd yn rhy isel
neu’n rhy isel. Mae system fonitro MERLIN CP Abriox yn gwirio y
defnyddir y foltedd cywir ac y caiff y cerrynt cywir ei gadw ar hyd
y biblinell.
Mae’r system yn dynodi unrhyw broblemau ac yn rhoi hysbysiad ar
unwaith yn dangos y maes problem penodol. Mae hyn yn dileu’r angen
am archwiliadau rheolaidd ar hyd y biblinell, gyda llawer ohonynt
mewn lleoliadau anhygyrch. Caiff yr holl ddata ei fonitro’n
awtomatig a’i drosglwyddo i bencadlys canolog, gan roi gwybodaeth
amserol i sicrhau y medrir cadw piblinellau yn gyson mewn cyflwr
da.
Dywedodd Neil Summers, Rheolwr Gyfarwyddwr Abriox, fod y cwmni’n
awr yn dechrau ar ehangu pellach. “Mae’r buddsoddiad gan Cyllid
Cymru wedi’n galluogi i ddatblygu cynnyrch a marchnadoedd newydd -
ac mae’r cwmni’n parhau i dyfu,” meddai.
“Mae’n amser da i ni brynu cyfranddaliad Cyllid Cymru yn ôl, a
gefnogodd ein twf ar gam tyngedfennol. Bu gennym berthynas
ardderchog gyda Cyllid Cymru ac rydym yn falch gyda’r cyfleoedd a
roddodd y buddsoddiad.”
Gwnaeth Cyllid Cymru elw ar ei fuddsoddiad. Dywedodd Nicola
Griffiths, Swyddog Gweithredol Portffolio: “Mae Abriox yn
enghraifft dda o fusnes oedd angen cyllid buddsoddi i ehangu. Fe
wnaethom deilwra pecyn i weddu uchelgais y cwmni am dwf ac yn awr
mae ei dîm rheoli mewn sefyllfa i brynu ein cyfranddaliad yn ôl ar
bris y gwnaethom gytuno arno a symud ymlaen gyda thwf pellach.
Rydym yn falch i fod wedi medru cefnogi Abriox Cyf.”
Ymholiadau gan y cyfryngau
E-bost: communications@financewales.co.uk
Ffôn: 029 2033 8126