Safbwynt Mike Owen ar ehangu drwy gaffaeliad

 

10/06/10

 

Mike Owen, new investments manager

Gall strategaeth caffaeliad, neu “brynu ac adeiladu” fod yn dda ar gyfer hybu twf eich busnes.

 

Mae mwy a mwy o fusnesau Cymru sy’n byw drwy’r dirywiad economaidd yn awr yn mabwysiadu’r strategaeth yma.

 

A yw caffaeliad y peth iawn i chi?

 

Mae busnesau’n mynd ar lwybr caffaeliad oherwydd y credant ei bod yn ffordd gost-effeithiol o ehangu ei gynnig. Os ydych chi’n ystyried strategaeth “prynu ac adeiladu”, gallai hynny fod er mwyn cynyddu sylfaen gwybodaeth eich busnes neu’ch sianeli gwerthiant a dosbarthu. Gall caffaeliad eich helpu i gynyddu eich cyfran marchnad a medrai arallgyfeirio eich busnes.

 

Ond gall risgiau caffaeliad fod yn fwy nag mewn twf organig.

 

Cadw llygad ar bethau

 

Mae gormod o fusnesau’n ceisio gwneud y cyfan eu hunain, ond gall chwarae droi’n chwerw. Gall prynu cyfran mewn busnes arall fynd â llawer iawn o’ch sylw.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor proffesiynol da a chanfod y cynghorydd cywir i reoli’r prosiect caffaeliad.

 

Yr amser cywir

 

Dywedais o’r blaen fod y dirywiad economaidd yn gwneud llawer o fusnesau yn fwy gofalus gyda’u harian.

 

Er gwaethaf hyn, rydym mewn gwirionedd yn gweld mwy o gaffaeliadau. Mae busnesau cryf yn cael cynigion i gynyddu eu portffolios wrth i fwy o fusnesau gwan ddod ar y farchnad gaffaeliad.

 

Mae’n bwysig bod yn realistig. Ydych chi’n barod mewn gwirionedd i ehangu drwy gaffaeliad.

 

Y pris cywir

 

Mewn amserau llai cythryblus byddwn yn disgwyl i ddêl caffaeliad gael ei phrisio tua 5 x elw gweithredu. Un peth a welsom yn ddiweddar yw lluosyddion is gyda busnesu’n cael eu caffael am 2-3 x elw.

 

Mae’n farchnad prynwyr, lle mae busnesau synhwyrol yn pwyso a mesur y cyfleoedd cyn i’w cystadleuwyr wneud hynny!

 

Beth ddylech chi ei wneud nawr?

 

Ydych chi wedi gwneud eich gwaith cartref?

  • Ydych chi wedi canfod cyfle caffaeliad ar y pris cywir?
  • A fyddai caffaeliad wirioneddol yn ychwanegu gwerth i’ch busnes?

Os mai ‘ydi’ neu ‘byddai’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, medrai fod yn amser i rannu eich syniadau gyda Cyllid Cymru.