Gair gan Sam Macalister-Smith am helpu'ch cleientiaid i dyfu trwy fuddsoddi

 

13/05/10

 

Sam Macalister-Smith

Rwy'n credu bod busnesau sydd â chynlluniau i dyfu yn ardal Rhondda Cynon Taf ac y gallent elwa ar gyllid a phrofiad Cyllid Cymru.

 

Rydym yn buddsoddi mewn mwy a mwy o fusnesau ledled Cymru. Cynghorwyr fel chi sy'n cyfeirio llawer o'r busnesau hynny atom, gan helpu eu cleientiaid i chwilio am fuddsoddiad.

 

Ydi'ch cleientiaid chi:

  • Yn datblygu nwyddau a gwasanaethau newydd?

  • Yn dymuno ehangu i farchnadoedd neu safleoedd newydd?

  • Yn bwriadu symud?

  • Yn ystyried prynu busnes?

IOs oes gan eich cleientiaid gynlluniau busnes cadarn, efallai bod gennym ni'r cyllid i'w helpu i wireddu eu cynlluniau.

 

Cydweithio â'r arbenigwyr

 

Mae gennych chi wybodaeth am fusnes yn yr ardal. Rydych chi'n adnabod y busnesau yr ydych yn cydweithio â nhw.

 

Mae gennym ni enw da am gydweithio â chynghorwyr busnes, banciau a chyfrifyddion i strwythuro buddsoddiadau.

 

Gallai cydweithio â Cyllid Cymru helpu'ch busnes chi i dyfu, yn ogystal â busnes eich cleient.

 

Y math o fuddsoddiad

 

Rydym wedi trefnu cyfalaf datblygu i nifer o gwmnïau ledled Cymru.

 

Mae gennym enw da am wneud trefniadau olyniaeth rheoli. Rydym wedi helpu busnesau i barhau i weithredu ar ôl i'r perchennog ymddeol neu pan fydd un cyfranddaliwr yn dymuno prynnu siâr y lleill.

 

Yn aml, rydym yn cyd-fuddsoddi gyda banciau neu fuddsoddwyr eraill, masnachol neu breifat. Rydym hefyd wedi llunio buddsoddiadau syndicet ar gyfer busnesau sydd wedi cael grantiau.

 

Y camau nesaf

 

Cysylltwch â'm cydweithiwr Louise Butler i drafod cyfleoedd i fuddsoddi.