Polisi preifatrwydd
Ein hegwyddorion
Mae gan Cyllid Cymru ymrwymiad i ddiogelu eich
gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu:
- Dim ond am wybodaeth bersonol sy’n ein helpu ni i’ch helpu chi
y gofynnwn
- Cadwn eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn gyfrifol
- Nid ydym byth yn rhannu eich gwybodaeth bersonol tu allan i
Cyllid Cymru heb eich caniatâd
Casglu gwybodaeth
Dim ond gyda’ch caniatâd chi mae Cyllid Cymru
yn casglu gwybodaeth, un ai yn y wefan hon neu mewn digwyddiadau,
cyfarfodydd neu debyg.
Byddwn bob amser yn dweud wrthych yn union yr
hyn y bwriadwn ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol ac ni fyddwn
byth yn ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heb eich caniatâd.
Medrwch ddefnyddio ein gwefan heb roi
gwybodaeth bersonol ond gall gwybod beth yw’ch dewisiadau ein helpu
i wella sut y cyfathrebwn gyda chi.
Dadansoddwn ymddygiad ymwelwyr i’n gwefan i
wella ein marchnata. Defnyddiwn ‘cwcis’ (ffeiliau testun a ddodir
ar eich cyfrifiadur) i gasglu gwybodaeth am ymwelwyr. Mae hyn yn
cynnwys cyfeiriad eich darparydd rhyngrwyd a’r tudalennau yr
ymwelwch â hwy ond nid yw’n cynnwys gwybodaeth y medrid ei
defnyddio i wybod pwy ydych. Medrwch ddewis peidio rhoi gwybodaeth
ymwelydd drwy anablu cwcis ar eich porwr gwe.
Dal gwybodaeth
Mae Cyllid Cymru yn dal eich gwybodaeth
bersonol yn ddiogel. Defnyddiwn fesurau diogelu, yn cynnwys
amgodiad electronig i atal mynediad heb ganiatâd.
Medrwch ofyn am fanylion yr wybodaeth bersonol
a ddaliwn amdanoch drwy anfon neges e-bost at info@financewales.co.uk neu
ysgrifennu at Cyllid Cymru, Tŷ Oakleigh, Plas y Parc, Caerdydd CF10
3 DQ. Mae ffi weinyddol o £10 am roi’r wybodaeth hon.
Gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os
credwch fod unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol yn anghywir a
byddwn yn ei chywiro.
Defnyddio gwybodaeth
Medrwch fod eisiau darparu gwybodaeth i’n
helpu i:
- Ymateb i’ch ymholiadau
- Gwella ein cynnyrch a gwasanaethau
- Arsylwi eich dewisiadau cyfathrebu
Dim ond am wybodaeth bersonol sy’n berthnasol
i’n datblygiad busnes, gwasanaeth cwsmeriaid neu farchnata y
gofynnwn amdani.
Anaml y byddwn yn anfon mwy nag un
cyfathrebiad marchnata y mis atoch a medrwch ddewis peidio eu
derbyn unrhyw bryd drwy anfon neges e-bost at communications@financewales.co.uk.