Safonau gwasanaeth
Cymerwn gyfrifoldeb dros ein gweithgareddau ac rydym yn
ymroddedig i gyflawni’r safon uchaf posibl o ofal cwsmeriaid.
Gwnawn bob ymdrech i gynnal ein safonau gwasanaeth drwy ddarparu
gwasanaeth effeithiol, dibynadwy, personol, proffesiynol a
thryloyw.
Gwneud penderfyniadau
Mae ein rheolwyr cronfa yn sicrhau y caiff buddsoddiadau eu dodi
gyda busnesau hyfyw. Eu prif gonsyrn yw gwneud buddsoddiadau
defnyddiol a darbodus. Er bod pob cais a dderbyniant yn cael sylw
gofalus, ni fedrant ymrwymo i gytuno i bob cais.
Os oes gennych gwyn am benderfyniad masnachol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Bydd ein
rheolwyr cronfa yn hapus i drafod unrhyw agwedd o’u proses gwneud
penderfyniadau. Os gwrthodir cais, mae’n debygol mai dim ond
gwybodaeth ychwanegol i gefnogi’r cais sy’n debygol o arwain at
newid y penderfyniad hwnnw.
Trin ceisiadau
Os oes gennych gwyn heb fod yn fasnachol am y ffordd y cafodd
cais ei drafod, cysylltwch â ni os
gwelwch yn dda. Byddwn yn hapus i ymchwilio a delio gydag unrhyw
broblemau.
Cysylltu â ni
Medrir cysylltu â ni rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os oes angen i chi siarad gyda ni tu allan i’r oriau hyn, medrwch
adael neges ar ein peiriant ateb a byddwn yn eich ffonio’n ôl y
diwrnod gwaith nesaf.