Buddsoddi mewn busnesau
Mae Cyllid Cymru yn gwneud buddsoddiadau masnachol ym musnesau
Cymru gyda photensial i dyfu.
Yn pwy ydym yn buddsoddi?
Buddsoddwn mewn busnesau bach a chanolig. Mae busnesau bach a
chanolig:
- Yn cyflogi llai na 250 o bobl
- Â throsiant blynyddol heb fod yn fwy na €50 miliwn
Buddsoddwn hefyd mewn mentrau cymdeithasol a
phrosiectau masnachol creadigol.
Buddsoddi o’r ffurfio i’r lansiad
Nid oes yr un dau fusnes yr un fath.
Sylweddolwn y byddwch yn wynebu sialensiau newydd wrth i’ch busnes
dyfu. Dyna pam y credwn mewn datblygu perthynas sy’n para gyda’r
busnesau y buddsoddwn ynddynt.
P’un ai ydych yn cychwyn busnes, ar gam
cynnar, yn dymuno ehangu neu’n ystyried prynu mewn i fusnes neu
baratoi ar gyfer rhyddhau i’r farchnad, medrwn eich helpu i
ddod o hyd i becyn cyllid a deilwriwyd ar gyfer anghenion eich
busnes. A byddwn yno gyda chi wrth i’ch busnes, gan ystyried
cylchoedd ariannu ychwanegol pan fo angen.
Gweithio gyda chyd-fuddsoddwyr
Mae Cyllid Cymru yn edrych am gyd-fuddsoddiad
mewn busnesau twf, gan weithio’n agos yn aml gyda banciau, cyfalaf
menter, y sector cyhoeddus ac unigolion preifat, megis angylion
busnes xénos.