Buddsoddi yn y diwydiannau creadigol
Mae Cronfa ED Creadigol Cymru yn trawsffurfio
cynhyrchu ffilm, teledu, cyfryngau newydd a cherddoriaeth yng
Nghymru.
Mae Cyllid Cymru’n rheoli’r Gronfa ED £10
miliwn ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Gronfa ED
yn gweithredu fel cyllidwr bwlch, gan weithio gyda chyllid yr ydych
wedi’i sicrhau eisoes gan ddarparwyr cyllid eraill.
Gwneud Cais i Gronfa ED Creadigol Cymru
Mae Cronfa ED Creadigol Cymru yn gweithredu ar sail fasnachol.
Fel arfer medrwn fuddsoddi rhwng £50K a £700K mewn unrhyw un
brosiect. I wneud cais mae’n rhaid i chi ddangos:
- eich bod wedi sicrhau o leiaf 60% o’ch cyllideb o ffynonellau
eraill
- bod gan eich prosiect fudd economaidd i Gymru; rhaid gwario
cyfran o’ch cyllideb yng Nghymru
- bod gennych gynnig masnachol gyda chymhareb risg/gwobr
rhesymol
- bod gennych lwybr i’r farchnad, os oes modd gyda dosbarthydd
neu asiant gwerthu yn barod.
Nod y Gronfa
Mae Cronfa ED Deallusol Cymru yn rhan o strategaeth Llywodraeth
Cynulliad Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r
Gronfa ED yn anelu i:
- sicrhau adenillion ar ei buddsoddiadau
- cynyddu gweithgaredd cynhyrchu yng Nghymru
- annog cwmnïau cynhyrchu Cymru i fod yn gystadleuol
- cefnogi cynhyrchwyr, gan eu helpu i greu a chadw eiddo
deallusol
- datblygu sgiliau ac annog hyfforddiant ar y swydd
- cynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru