Cyfnod cynnar
Buddsoddwn gyfalaf had a thwf mewn busnesau technoleg arloesol
sydd â'r uchelgais a'r potensial i ddod yn arweinwyr yn y farchnad
ryngwladol.
Rydym yn falch i fod yn fuddoddwr cyfnod cynnar blaenllaw yn y
Deyrnas Unedig. Ers 2009 rydym wedi buddsoddi bron £15 miliwn mewn
33 buddsoddiad cyfnod cynnar.
Byddem yn falch siarad gyda chi am eich cynlluniau busnes.
Cysylltwch â ni i weld os gallai Cyllid
Cymru fuddsoddi yn eich cwmni.
Buddsoddi mewn busnesau technoleg
Gallwn:
- Fuddsoddi rhwng £50,000 a £1m
- Buddsoddi cylchoedd dilynol hyd at £5m
- Strwythuro'r pecyn dyled ac ecwiti mwyaf addas ar gyfer eich
busnes
Dod â thechnoleg newydd i'r farchnad
Mae gan ein tîm buddsoddi brofiad
sector a buddsoddi eang ac maent yn deall yr heriau sy'n wynebu
busnesau sy'n tyfu'n gyflym. Rydym yn fuddsoddwr 'dwylo ymlaen' ac
yn gweithio'n agos gyda'n busnesau portffolio.
Ein portffolio
Buddsoddwn ar draws amrediad o sectorau technoleg yn cynnwys:
electroneg a pheirianneg, gwyddorau bywyd, technoleg gwybodaeth a
chyfathrebu ac ynni a'r amgylchedd.
Darllenwch uchafbwyntiau o'n portffolio
buddsoddi.
Gwneud y cyflwyniadau cywir
Mae gennym hanes o lwyddiant mewn cyd-fuddsoddi gyda buddsoddwyr
sefydliadol eraill, angylion busnes ac unigolion gwerth net
uchel.
Mae gan ein tîm buddsoddi cyfnod cynnar gysylltiadau cryf gyda
chanolfannau ymchwil prifysgol a mynediad i gefnogaeth sector
cyhoeddus ychwanegol yng Nghymru.
Ein meini prawf buddsoddi
Buddsoddwn mewn busnesau sy'n seiliedig yng
Nghymru neu fusnesau sy'n symud i Gymru. I gael eich ystyried ar
gyfer buddsoddiad, dylech ddangos:
- Technoleg unigryw yn targedu marchnadoedd
twf
- Eiddo deallusol gwreiddiol a chadarn
- Tîm rheoli profiadol, gyda ffocws
masnachol
- Strategaeth masnacheiddio
- Cynllun gadael clir