Olyniaeth rheolaeth
Gall prynu busnes llwyddiannus presennol fod yn docyn cyflym i
fudd ariannol, ond mae angen mynediad i gyfalaf. Medrwn eich helpu
i ariannu olyniaeth busnes.
Yn pwy ydym yn buddsoddi?
Rydych wedi dynodi cyfle i brynu busnes yng Nghymru. Os yw’ch
cynllun busnes yn gadarn a’ch bod yn cyflawni ein meini prwaf
buddsoddi, byddwn yn hapus i siarad gyda chi am ein cytundebau
olyniaeth rheolaeth masnachol.
Cysylltwch â ni neu anfon e-bost atom
i gael mwy o wybodaeth.
Buddsoddiad teilwredig yn gweddu i’ch anghenion
Gall olyniaeth rheolaeth ddigwydd am amrywiaeth o resymau. P’un
ai ydych yn dymuno cynyddu eich proffil, ehangu i farchnadoedd
newydd neu gadw swyddi yng Nghymru, medrwn gyllido eich
uchelgais.
Rydym wedi gweithio ar:
- Cytundebau olyniaeth mewnol, yn cynnwys rheolwyr yn
prynu cwmnïau neu weithwyr yn prynu
cwmnïau; lle mae tîm rheolwyr neu weithlu presennol yn
prynu busnes gan ei berchennog.
- Mae cytundebau olyniaeth allanol, yn cynnwys rheolwyr
yn prynu mewn i gwmni; tîm rheoli yn prynu holl
gyfranddaliadau neu asedau cwmni arall.
- Caffaeliadau corfforaethol