Prawf buddsoddi

 

Buddsoddwr masnachol yw Cyllid Cymru. Cyn i chi wneud cais i ni, dylech sichrau fod eich busnes yn gymwys am fuddsoddiad:

  • Rhaid i chi fod yn fusnes bach i ganolig, yn seiliedig yng Nghymru ac yn cyflogi llai na 250 o bobl.

  • Rhaid i’ch trosiant blynyddol beidio bod yn fwy na €50 miliwn.

Beth i'w gynnwys yn eich cynllun busnes

 

Rhaid i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes am y 1 - 5 mlynedd nesaf, felly dylech ddangos achos busnes cryf dros fuddsoddi:

 

Cynnyrch neu wasanaeth

  • Ar gyfer beth y byddwch yn defnyddio ein buddsoddiad? Pa fanteision fydd cefnogaeth Cyllid Cymru yn eu rhoi i’ch busnes?
  • Beth yw pwynt gwerthu unigryw eich cynnyrch craidd?
  • A oes gan eich cynnyrch craidd eiddo deallusol neu ddiogeliad patent?
  • Beth yw’r llwybr i’r farchnad ar gyfer eich cynnyrch craidd?

Galw marchnad

  • Pwy yw’ch marchnad darged a sut ydych chi’n cyflwyno eich cynnyrch/cwmni iddynt?

  • Pa dystiolaeth fedrwch chi ei chyflwyno am eich perthynas gyda’ch cwsmeriaid presennol neu ddarpar gwsmeriaid?
  • Pwy yw eich cystadleuwyr allweddol? Beth a ystyriwch yw eu pwynt gwerthu unigryw?

Potensial twf a gadael

  • Sut fydd eich trosiant a’ch elw yn tyfu? Cynhwyswch eich rhagolygon ariannol; mae angen i ni gael sicrwydd am ddychweliad ar ein buddsoddiad.
  • Beth yw eich strategaeth gadael? Gadewch i ni faint o amser a ddisgwyliwch cyn gadael a’ch llwybr ar gyfer gwneud hynny a phrisiant posibl eich cwmni.

Arbenigedd rheolaeth

  • A oes gan eich rheolwyr brofiad o sefydlu neu redeg busnes?
  • Pa brofiad arall sydd ganddynt?
  • Pam mai hwy yw’r bobl orau i redeg y busnes?
  • A oes gennych fylchau yn eich tîm? Dywedwch wrthym, medrem helpu.

Gwybodaeth buddsoddi

  • Ydych chi wedi gofyn am gyngor gan gynghorydd busnes annibynnol?
  • Ydych chi wedi ystyried cyllid o ffynonellau eraill fel rhan o becyn buddsoddiad ehangach?

Mae Cyllid Cymru yn defnyddio cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Gall rhai ardaloedd o Gymru fod yn gymwys am fwy o adnoddau.